Y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru

CURRICULUM HEADER

­Yn yr adran hon, cewch wybodaeth am nodweddion allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, a sut mae’r celfyddydau, llythrennedd a rhifedd yn rhan ohono. Gallwch hefyd ddarllen am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r cwricwlwm yn llwyr o 2018 ymlaen.

 

System sy’n newid

Mae addysg ar drobwynt cyffrous yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2014, gofynnwyd i’r Athro Graham Donaldson gynnal adolygiad sylfaenol o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru. Mae ei adroddiad, Dyfodol Llwyddiannus, yn ffurfio sylfaen proses radical gymharol o ail-lunio’r cwricwlwm yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.  

Mae’r cwricwlwm newydd, cwricwlwm am oes

  • yn cadarnhau pedwar diben allweddol sydd wrth wraidd y cwricwlwm newydd a fydd yn cefnogi ein plant a’n pobl ifainc i fod yn:

- ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;

- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;

- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd;

- ac yn unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

  • Yn nodi chwe Maes Dysgu a Phrofiad o 3-16 oed (gan gynnwys y Celfyddydau Mynegiannol)
  • Yn nodi tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol)
  • Yn datblygu fframwaith asesu a gwerthuso newydd sy’n gosod pwyntiau cyfeirio ar gyfer cynnydd yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed gyda deilliannau cyflawniad ar gyfer pob pwynt.

Caiff y cwricwlwm newydd i Gymru ei ddatblygu gydag ysgolion arloesi ledled Cymru a’r nod yw sicrhau y bydd ar gael i leoliadau ac ysgolion erbyn Medi 2018. Gallwch ddarllen mwy am Ddiwygio’r Cwricwlwm yma.

 

Felly beth yw’r sefyllfa bresennol?

Yn y cyfamser, mae’r ganllaw hon yn cyfeirio at y cwricwlwm presennol sy’n ei wneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir gynnig cwricwlwm eang a chytbwys sy’n:

  • hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol disgyblion yn yr ysgol ac yn y gymdeithas
  • paratoi disgyblion yn yr ysgol ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau yn y dyfodol ac
  • yn cynnwys – yn ogystal â’r Cwricwlwm Cenedlaethol – Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh), Addysg Grefyddol ac (ar gyfer disgyblion uwchradd) addysg rhyw a pherthnasoedd; Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith ac Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang. 

Cyflwynwyd canllawiau presennol y Cwricwlwm Cenedlaethol yn 2008 ar gyfer dysgwyr 3-16 oed. Yng Nghymru ar hyn o bryd, caiff y cwricwlwm ysgol ei drefnu’n gyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3-7 oed a Chyfnodau Allweddol 2, 3 a 4.

 

Y Cyfnod Sylfaen (y cwricwlwm statudol ar gyfer plant 3-7 oed yng Nghymru)

Mae’r Cyfnod Sylfaen, a gyflwynwyd yn 2010, yn rhoi pwyslais cadarn ar ddysgu drwy chwarae ac mae ganddo ei gwricwlwm penodol ei hun. Wedi’i gynllunio i annog plant i fod yn greadigol ac yn ddychmygus, ar y cam hwn, mae’r cwricwlwm yn rhoi cyfleoedd i blant ddysgu drwy chwarae dan gyfarwyddyd a phrofiad ymarferol. Nod y gweithgareddau yw hyrwyddo pwerau darganfod ac maent yn ymarferol ac yn weithredol eu natur. Rhoddir pwys mawr ar ddefnyddio amgylcheddau awyr agored fel adnodd ar gyfer dysgu’r plant. Mae saith Maes Dysgu, ac mae Datblygiad Creadigol yn un ohonynt. Ei nod yw meithrin sgiliau creadigol, mynegiannol ac arsylwadol y plant drwy weithgareddau celf, crefft, dylunio, cerddoriaeth a symud creadigol. Cliciwch yma i ddarllen mwy am y Cyfnod Sylfaen.

 

Y Cwricwlwm Cenedlaethol (ar gyfer disgyblion 7 i 16 oed)

Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys i bob disgybl 7 i 16 oed mewn ysgolion a gynhelir, oni bai eu bod wedi’u ‘datgymhwyso’ oherwydd anghenion dysgu. Caiff ei drefnu’n dri chyfnod allweddol ac mae’n cynnwys pynciau craidd a di-graidd. Mae’r tabl yn dangos pa bynciau sy’n rhai craidd a di-graidd ar bob cyfnod: 

Cyfnod Allweddol

Ystod oedran

Pynciau craidd

Pynciau di-graidd

2

7-11 oed

Saesneg

Cymraeg (iaith gyntaf) Mathemateg

Gwyddoniaeth

Cymraeg (ail iaith); Celf a Dylunio, Dylunio a Thechnoleg, Daearyddiaeth, Hanes, TGCh, Ieithoedd Tramor Modern, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol, Astudiaethau Crefyddol.

3

11-14 oed

Saesneg

Cymraeg (iaith gyntaf) Mathemateg

Gwyddoniaeth

Cymraeg (ail iaith); Celf a Dylunio, Dylunio a Thechnoleg, Daearyddiaeth, Hanes, TGCh, Ieithoedd Tramor Modern, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol, Astudiaethau Crefyddol.

4

Yn cynnwys cymwysterau TGAU/Lefel 2 a Lefel Mynediad/Lefel 1

14-16 oed

Saesneg

Cymraeg (iaith gyntaf) Mathemateg

Gwyddoniaeth

Mae pob disgybl yn parhau i astudio Cymraeg, Addysg Gorfforol ac Astudiaethau Crefyddol ac maent bellach hefyd yn gweithio tuag at Fagloriaeth Cymru*. Mae dysgwyr yn dewis opsiynau o’r pynciau eraill ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 / TGAU.

 

Cyflwynwyd *Bagloriaeth Cymru ym mis Medi 2015 ar gyfer pob dysgwr ar Gyfnod Allweddol 4 ac yn y Chweched Dosbarth. Y prif ffocws yw rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd. Mae’n cynnwys Llythrennedd, Rhifedd, Llythrennedd Digidol, Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau, Creadigrwydd ac Arloesedd, Cynllunio a Threfnu ac Effeithiolrwydd Personol. Mae Bagloriaeth Cymru yn ymgorffori’r Dystysgrif Her Sgiliau (sy’n cyfateb i un TGAU) yn ogystal â 5 TGAU arall – yn cynnwys Mathemateg a Saesneg. Bydd Bagloriaeth Cymru yn un o ddangosyddion perfformiad allweddol ysgolion o 2018 ymlaen. 

Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau yn cynnwys pedair elfen y mae pob dysgwr yn eu dilyn. Mae’n bosibl y gwelwch fod y dystysgrif hon yn cyflwyno cyfleoedd newydd i chi weithio gydag ysgolion ar brosiectau celf sy’n ymateb i’r tasgau a’r heriau amrywiol isod:

1. Prosiect Unigol – gweithgaredd annibynnol ar sail ymchwil sy’n cyfrannu 50% tuag at y pwnc craidd;

2. Her Menter a Chyflogadwyedd – sy’n datblygu sgiliau a phriodoleddau mentrus ac yn gwella cyflogadwyedd;

3. Her Dinasyddiaeth Fyd-eang – a fydd yn gofyn i ddysgwyr ddeall ac ymateb yn briodol i fater byd-eang

4.  Her y Gymuned, a fydd yn gofyn i ddysgwyr nodi, datblygu a chyfrannu at gyfleoedd a fydd o fudd i’r gymuned leol.

 

Y Cwricwlwm Cymreig

Mae’n ofynnol i bob pwnc ddarparu’r Cwricwlwm Cymreig – rhan o’r cwricwlwm sy’n arbennig i Gymru. Mae’r Cwricwlwm Cymreig wedi’i gynllunio i adlewyrchu hanes, daearyddiaeth a diwylliant Cymru, gan helpu i ddatblygu ymdeimlad o le a threftadaeth. Gall ysgolion wella’r pwyslais hwn ar y dimensiwn Cymreig drwy weithio mewn partneriaeth ag artistiaid a sefydliadau diwylliannol o Gymru. Pe hoffech, gallech ddarllen mwy am Y Cwricwlwm Cymreig yma.

 

Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i godi safonau llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion ac, o fis Medi 2013, daeth y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn un o ofynion statudol y cwricwlwm. Drwy ddarparu’r Cwricwlwm Cenedlaethol, disgwylir i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a meddwl ac erbyn hyn mae plant 7-14 oed yn cael profion darllen a rhifedd blynyddol fel arfer ar ddechrau mis Mai.

 

Sut mae’r Celfyddydau yn rhan o’r cwricwlwm

Mae’r hawl statudol a amlinellir uchod yn golygu bod Celf a Dylunio, Ysgrifennu Creadigol, Dawns, Drama a Cherddoriaeth yn rhan o brofiad dysgu pob plentyn o 3 i 14 oed.

Caiff Ysgrifennu Creadigol a Drama eu cynnwys fel rhan o Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu yn y Cyfnod Sylfaen, ac fel rhan o Gymraeg a Saesneg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Caiff Dawns ei chynnwys fel rhan o Addysg Gorfforol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Nid yw Ffilm na’r Cyfryngau yn rhan o’r gofyniad statudol, er eu bod yn cael eu cynnwys yn aml i gyfoethogi’r cwricwlwm ac, yn arbennig, prosiectau trawsgwricwlaidd. Gall Ffilm a’r Cyfryngau fod yn opsiynau pwnc hefyd yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5.

Nid oes gofyniad i integreiddio pynciau’r celfyddydau â phynciau eraill. Fodd bynnag, ar Gyfnod Allweddol 2 mae llawer o ysgolion yn dewis dull trawsgwricwlaidd, thematig o ddysgu a bydd rhai athrawon yn defnyddio dulliau’r celfyddydau yn naturiol yn eu ffyrdd o addysgu. Er enghraifft, gellid ymchwilio i hanes drwy ddefnyddio gweithgareddau celf a drama. Efallai y gofynnir i ddysgwyr ddatgelu personoliaeth cymeriad hanesyddol neu ei gymhellion drwy dechnegau cadair boeth / ail-greu golygfa neu ysgrifennu cofnod mewn dyddiadur er enghraifft. 

Ar ôl symud i’r ysgol uwchradd ar Gyfnod Allweddol 3, caiff pynciau fel arfer eu haddysgu ar wahân – ond mae’r pwyslais ar waith trawsgwricwlaidd yn cynyddu. Efallai y bydd rhai ysgolion yn dewis ‘dymchwel’ y cwricwlwm ar adegau ar Gyfnod Allweddol 3 a pharatoi gweithgareddau trawsgwricwlaidd neu ganolbwyntio ar bwnc penodol (e.e. y celfyddydau / chwaraeon) am gyfnod penodol (e.e. am ddiwrnod neu wythnos). Mae’n well peidio â chysylltu ag ysgolion ar adegau prysur o’r flwyddyn – y cyfnod yn arwain at y profion ym mis Mai er enghraifft. 

Bydd cynnwys y Celfyddydau Mynegiannol fel un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad newydd o fewn y cwricwlwm yn y dyfodol yn tanlinellu pwysigrwydd y celfyddydau fel rhan allweddol o addysg plant o 2018 ymlaen.