CA2: Cewri!

Dysgwyr blynyddoedd 3 a 4, Ysgol Bro Gwydir a Luned Rhys Parri

cewri
Trosolwg

Bu’r artist Luned Rhys Parri yn gweithio gyda dosbarth cymysg Blwyddyn 3 a 4 yn Ysgol Bro Gwydir. Roedd prosiect ‘Cewri!’ yn cyd-fynd â gwaith mwy amrywiol ar wynebau a mynegiant y wyneb dros gyfnod o ddwy i dair wythnos. 

http://www.youtube.com/watch?v=SPU2-3etSIo 

 

 

 

Cefndir

Lluniwyd prosiect ‘Cewri!’ fel rhan o thema hirdymor ehangach ‘Myfi fy hun’ yr oedd dysgwyr Blwyddyn 3 a 4 Ysgol Bro Gwydir yn ei dilyn. Bu’r dysgwyr yn edrych ar bortreadau, ac yn canolbwyntio ar wahanol siapau sydd i wynebau pobl.

Roeddynt wedi bod yn darllen The BFG gan Roald Dahl yn Saesneg a fersiwn briodol i Flwyddyn 3-4 o Branwen Ferch Llŷr, ail gainc y Mabinogi yn Gymraeg. Mae’r ddwy stori yn cyfeirio at gewri: BFG – unigolyn 24 troedfedd o daldra sydd â chlyw goruwchddynol a chyflymder rhyfeddol, a Bendigeidfran – cawr a brenin Prydain yn ôl chwedloniaeth Gymraeg.

A’r gwaith llythrennedd wedi gafael ynddynt, awgrymodd y disgyblion baentio wyneb cawr.  Gwahoddwyd Luned Rhys Parri – artist o’r ardal leol yn wreiddiol – i’r ysgol i weithio gyda’r disgyblion. 

Fel cyfanwaith, roedd y prosiect yn ymgorffori llawer o elfennau llythrennedd a rhai elfennau rhifedd yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, ac yn benodol o ran llythrennedd:

  • Llafaredd – Datblygu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau – Siarad, Gwrando, Cydweithio a Thrafod
  • Ysgrifennu – Trefnu syniadau a gwybodaeth – Ystyr, dibenion, darllenwyr, Strwythur a threfn
  • Ysgrifennu – Ysgrifennu’n gywir – Iaith.

…ac o ran rhifedd:          

  • Datblygu rhesymu rhifiadol – Nodi prosesau a chysylltiadau, Cynrychioli a chyfathrebu 
  • Defnyddio sgiliau rhif – Defnyddio ffeithiau a pherthynas rhif  - Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddyliol ac ysgrifenedig 
  • Defnyddio sgiliau mesur - Hyd. 
Beth oedd gan yr artist i’w gynnig?
Beth oedd gan yr artist i’w gynnig?

Cynigai arbenigedd ‘gwahanol’ a ategai arbenigedd y staff.

Gweithiai ar gynfas llawer mwy, felly gallai gynghori’r dysgwyr sut i luniadu a phaentio wynebau ar raddfa fawr.

Rhoddai gyfle i’r plant gydweithio â hi, gan ddysgu a defnyddio eu thechnegau.

Gofynnwyd i’r artist ganolbwyntio ar agweddau penodol o fynegiant y wyneb, e.e. lluniadu llygaid oedd yn edrych yn flin, rhannu’r wyneb yn ffracsiynau i helpu’r dysgwyr i leoli’r llygaid, y trwyn a’r geg ar y wyneb, a mesur y pellter rhwng gwahanol rannau’r wyneb. Roedd hyn hefyd yn gyfle i’r dysgwyr ddatblygu eu sgiliau llafaredd, yn benodol defnyddio iaith sy’n briodol i sefyllfaoedd mwy ffurfiol wrth siarad gydag artist am ei waith.

Cynllunio a Pharatoi

O safbwynt yr ysgol, roedd y gwaith cynllunio yn cynnwys dod o hyd i leoliad addas a chanfod deunyddiau – bocsys cardbord y gellid eu defnyddio (wedi’u hailgylchu)

O safbwynt yr artist, roedd yn bwysig sefydlu cyd-destun i’r gwaith, pennu pa fath o gelfyddyd weledol i’w defnyddio yn ystod ei hymweliad, a pha sgiliau i ganolbwyntio arnynt.

I baratoi ar gyfer yr ymweliad, bu’r dysgwyr:

  • yn edrych ar waith Luned Rhys Parri yn gyffredinol fel ymarferiad ‘dod i adnabod yr artist’.
  • yn canolbwyntio ar baratoi i baentio wyneb cawr drwy edrych ar nodweddion a mynegiant eu hwyneb eu hunain.
  • yn tynnu ffotograffau print a dynnwyd ganddynt o’u hwynebau eu hunain, a chuddio chwarter neu hanner y ffotograff â phapur. Aethant ati wedyn i luniadu a phaentio’r rhan goll o’u hwyneb ar y papur.

Yn ogystal â gwaith ar ‘gewri’ o fewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg, buont yn ysgrifennu storïau am ‘y dihiryn’, cerddi acrostig a haicŵau ac yn defnyddio cyflythreniad i greu enwau addas i gewri. 

Cynllunio a Pharatoi
Canlyniadau
  • Daeth y plant yn llawer mwy hyderus wrth greu lluniadau a phaentiadau ar raddfa llawer mwy nag arfer.
  • Bu iddynt wella’r ffordd y maent yn lleoli rhannau’r wyneb yn eu paentiadau, yn ogystal ag arbrofi â gwahanol fynegiannau’r wyneb y gallai ‘cawr’ eu dangos, e.e. wedi’i gythruddo, trist neu synfyfyriol.
  • Datblygwyd eu sgiliau llafaredd. Roeddynt yn gallu esbonio pam iddynt baentio wyneb y cawr mewn ffordd benodol ac addasu ac ymestyn eu sgwrs wrth siarad gyda’r artist. Roeddynt yn gwrando’n astud wrth glywed am y gwahanol dechnegau y gallent ddefnyddio wrth baentio, ac roedd eu gwaith wedyn yn adlewyrchu hyn.

Rhoddodd y prosiect syniadau i’r athro ynglŷn â gwaith dilynol, yn seiliedig ar y technegau a ddefnyddiwyd, a’r hyder a’r ysbrydoliaeth i roi cynnig ar wahanol bethau gyda’r dysgwyr yn ystod gwersi celf (e.e. paentio ar gynfas mwy, defnyddio brwshys mwy, defnyddio neuadd yr ysgol i wneud gwaith paentio ar raddfa fawr ac ati.) 

Gwaith dilynol

Aeth y dysgwyr ati:

  • i gwblhau wynebau’r ‘cewri’ yn y dosbarth, gan ddefnyddio ‘olwyn liwiau’ i ddatblygu eu sgiliau cymysgu lliwiau;
  • i ddefnyddio dulliau hunanasesu ac asesu gan gymheiriaid i asesu eu paentiadau, gan ddefnyddio dull myfyrio ‘2 seren a dymuniad’ (2 beth yr oeddynt yn hoffi ac 1 peth y gellid ei wella);
  • ac i baentio gwahanol fathau o wynebau cewri yn gysylltiedig â thestunau, gan ddefnyddio techneg Luned Rhys Parri ac edrych ar amryw wynebau a grëwyd ganddi yn ei gwaith.
Myfyrio

Cafodd y disgyblion fudd o’r cyfle i arsylwi artist proffesiynol yn lluniadu a phaentio gan ddefnyddio technegau y gallent eu hefelychu’n hawdd a deunyddiau sy’n hawdd cael gafael arnynt. Cawsant eu harwain gan yr artist i feddwl a siarad am leoliad a maint gwahanol rannau’r wyneb – man cychwyn da i gyflwyno rhifedd mewn gwaith celf.

Mae’r cyfleoedd i ymestyn Rhifedd yn cynnwys: rhannu wynebau’r cewri yn haneri a chwarteri, gan wybod ystyr ‘perimedr’ a mesur perimedr wynebau’r cewri, cymharu maint eu hwyneb a darnau’r wyneb eu hunain gyda rhai’r cawr. Gallai’r data a gesglir drwy hyn wedyn gael ei gofnodi a’i gynrychioli mewn gwahanol ffurfiau gweledol.