CS/CA2: Llwybrau Ymgysylltu

Ysgol Arbennig Crownbridge ac artistiaid amrywiol

Trosolwg
Trosolwg

Yn Ysgol Crownbridge, sef ysgol i ddysgwyr sydd ag anghenion cymhleth a lluosog, mae’r pennaeth, Lesley Bush, yn defnyddio map Llwybrau Dysgu ynghyd â’r Proffil a Graddfa Ymgysylltu i asesu anghenion y dysgwyr a’u patrymau dysgu. Yn ôl y data, mae’r dysgwyr yn dysgu orau, ac yn ymgysylltu orau, pan gânt eu trochi mewn gweithgareddau celfyddydol a chreadigol, a hynny wedi’i ategu gan addysgeg ac egwyddorion y Cyfnod Sylfaen.

Mae Proffil a Graddfa Ymgysylltu yn mesur ymgysylltu yn nhermau ymwybyddiaeth, chwilfrydedd, ymchwil, darganfyddiad, disgwyliad, dyfalbarhad a chychwyniad. Ar ôl arsylwi’r dysgwyr er mwyn sefydlu’r amodau ar gyfer y dull gorau o ymgysylltu, bydd Lesley yn croesgyfeirio’r anghenion hyn gyda sgiliau creadigol eu staff, ac wedyn yn dod ag artistiaid i mewn i lenwi’r bylchau a chyfoethogi’r ddarpariaeth. Fel hyn, mae’r artistiaid yn rhan hanfodol o gwricwlwm yr ysgol, o’r cam cynllunio i’r cyflwyno.

Cefndir

Mae’r pennaeth yn ymwybodol y gall y celfyddydau hefyd effeithio’n gadarnhaol ar ofal, cymorth ac arweiniad.

Yn ôl Estyn, mae defnyddio cerddoriaeth a therapi cerdd i oresgyn rhwystrau i ddysgu, megis cythrwfl emosiynol ac ymddygiad amhriodol, yn ymarfer sy’n arwain y sector yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Christchurch (Estyn, Mawrth 2014).

Cynllunio

Mae’r ysgol yn defnyddio data Proffil a Graddfa Ymgysylltu i greu llwybrau dysgu personol. Wedi hyn, mae’r athrawon yn cynnal sesiynau blasu i weld sut mae’r dysgwyr yn ymateb, cyn dewis a chysylltu ag artist perthnasol.

Mae cynllunio a chynnal deialog barhaus rhwng yr ysgol a’r artist yn hanfodol i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o nodau a diben cyfraniad y celfyddydau. Mae’r pennaeth yn cydnabod bod yn rhaid i’r artist ddeall anghenion a thargedau’r dysgwr unigol, sydd wedi’u nodi yn y Proffil a Graddfa Ymgysylltu a’r Llwybrau Dysgu. Lle caiff therapi ei gyllido gan Grant Effeithiolrwydd Ysgolion, mae’r targedau’n cysylltu yn uniongyrchol â Chamau A i C y Llwybrau Dysgu, fel sy’n briodol i’r unigolyn.

Fel arfer, bydd yr artistiaid yn rhan o sesiynau wythnosol dros gyfnod o dymor, neu hyd at flwyddyn. Byddant yn gweithio gyda dysgwyr penodol fel dosbarth, mewn grwpiau ac yn unigol. 

Cynllunio

Gwaith celf a grëwyd ar y cyd â Louise Tolcher-Goldwyn, Llantarnam Grange. Mae’r gwaith yn deillio o weithdy a oedd yn seiliedig ar archwilio ffyrdd i gofnodi gwybodaeth am gyngerdd a roddwyd gan y dysgwyr i ddathlu symud i leoliad newydd.

Arddangosfa wal – yn arddangos gwaith celf a grëwyd ar y cyd â Louise, Llantarnam Grange. Mae’r gwaith, sy’n seiliedig ar thema ‘caffi’, yn deillio o brosiect sy’n ceisio integreiddio dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol gyda dysgwyr prif ffrwd, drwy gyfrwng thema gyffredin yn y cwricwlwm.

cynllunio

Bu disgyblion sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, ac sy’n ymgysylltu’n bennaf drwy gerddoriaeth, yn gweithio gyda’r gantores Sally Hayes. Mae’n defnyddio canu i wella sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn grŵp. Galluogodd y sesiynau hyn i’r dysgwyr ystyried stori, dysgu geirfa newydd, amgyffred ystyr a mynegi hwyl. 

Gwerthuso a Chanlyniadau

Mae’r athrawon yn arsylwi pob sesiwn ac yn defnyddio taflen asesu ysgrifenedig i gofnodi tystiolaeth o gynnydd mewn perthynas â thargedau a allai gynnwys targedau ysgrifennu creadigol yn ogystal â thargedau llythrennedd a rhifedd. 

Caiff artistiaid eu hannog i gasglu tystiolaeth o gynnydd, a llunio adroddiad ysgrifenedig i’r ysgol ar y diwedd. Bydd yr ysgol yn croesgyfeirio adroddiad yr artist gyda Llwybrau Dysgu, a chaiff yr holl ddogfennau wedyn eu gwerthuso gan y pennaeth i bennu’r effeithiolrwydd yn gyffredinol.

Nid barnu ansawdd y ddarpariaeth gelfyddydol yw ffocws y pennaeth, ond barnu’r effaith ar ddysgu. Ar hyn o bryd, mae ar waith ag ystyried ffyrdd i ddefnyddio’r wybodaeth hon fel rhan o Offeryn Archwilio ABCh Llywodraeth Cymru. 

Myfyrio

Mewn adroddiad arolygiad diweddar, bu i Estyn ganmol y ffordd mae Crownbridge yn defnyddio gwybodaeth am sgiliau llythrennedd a rhifedd y dysgwyr i gynllunio a monitro ymyriadau penodol, a dywedwyd bod y dysgwyr yn “llwyddiannus iawn ar ddefnyddio eu sgiliau llythrennedd a chyfathrebu yn gyson ar draws y cwricwlwm ac wrth ryngweithio’n gymdeithasol” (Mawrth 2014).

I’r pennaeth, mae’r cyswllt rhwng yr artist a’r athro yn allweddol i wella effaith y ddarpariaeth gelfyddydol. Mae’n gwybod bod yn rhaid i’r ysgol sicrhau bod gan yr artist neu’r therapydd ddealltwriaeth gadarn o dargedau’r dysgwr.