CA3: The Book of Suffering

Cylch Adloniant Canolbarth Cymru a Blwyddyn 7, Ysgol y Gader, Dolgellau

The Book of Suffering
Trosolwg

Roedd y prosiect yn para blwyddyn ysgol gyfan, ac yn seiliedig ar hanesion am erledigaeth y Crynwyr yn Nolgellau yn yr ail ganrif ar bymtheg. Roedd yn ystyried testunau gwreiddiol a ysgrifennwyd gan y Crynwyr (‘ The Book of Suffering’), cofnodion llys y cyfnod a phapurau hanesyddol a ddogfennai fywyd William Penn a bywydau’r Crynwyr a deithiodd i Pennsylvania. Edrychwyd hefyd ar y storïau y tu ôl i nofel ‘Y Stafell Ddirgel’ gan Marion Eames a chofnodion gwreiddiol y gwladfawyr o Grynwyr yn America.

Yn ystod y tymor cyntaf, bu’r disgyblion yn datblygu sgiliau ysgrifennu creadigol mewn ymateb i’r storïau. Yn ystod yr ail a’r trydydd tymor, cawsant brofi a chynhyrchu fersiwn wedi’i dramateiddio o’u treftadaeth.

Cefndir

Datblygwyd prosiect The Book of Suffering gan Cytser, rhan o Gylch Adloniant Canolbarth Cymru – rhwydwaith o wyth o theatrau yng nghanolbarth Cymru sydd â phrofiad helaeth o gydweithio.  

Lydia Bassett, cydlynydd Cylch Canolbarth Cymru oedd yn arwain y prosiect, mewn cydweithrediad â’r awdur llawrydd Sian Melangell Dafydd , Theatr Felinfach a Choleg Meirion Dwyfor. Gyda’i gilydd, buont yn datblygu gwaith ar yr hanes dramatig ac ysgytwol sydd i erledigaeth y Crynwyr yn Nolgellau yn yr ail ganrif ar bymtheg. Derbyniodd y prosiect gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a rhaglen Gwreiddiau Ifanc Cronfa Dreftadaeth y Loteri, sydd â’r nod o gynnwys plant a phobl ifanc yn weithredol yn hanes eu cymunedau eu hunain. 

Deunydd crai llawer o’r prosiect oedd The Book of Suffering (‘Casgliad o ddioddefaint pobl a elwir yn Grynwyr er tystiolaeth i gydwybod da’). Ysgrifennwyd y llyfr yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac mae’n archwilio hanes y Crynwyr lleol, gan ddisgrifio yn eu geiriau eu hunain sut y cawsant eu rhoi ar brawf am fethu â mynychu’r eglwys, eu carcharu a’u condemnio i’w crogi neu’u llosgi am eu credoau.

Edrychai’r prosiect ar hanes y cyfnod, ond hefyd galluogai i’r athrawon gyflwyno adrannau perthnasol o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. I Flwyddyn 7, o ran llythrennedd yn benodol:

  • Llafaredd – Datblygu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau – Siarad, Gwrando, Cydweithio a Thrafod
  • Darllen – Canfod, dewis a defnyddio gwybodaeth – Ymateb i’r hyn a ddarllenwyd
  • Ysgrifennu – Trefnu syniadau a gwybodaeth – Ystyr, dibenion, darllenwyr, Strwythur a threfn.

Gweithiodd y pwnc yn dda gyda’r cwricwlwm cyfun ar gyfer y dyniaethau, gan gwmpasu hanes, daearyddiaeth, addysg grefyddol a llythrennedd. Roedd gwybodaeth y disgyblion a’u hymwneud â’u cymuned eu hunain a’i hanes yn cyd-fynd ag elfennau ‘Ein Bro Ni’ yn y Cwricwlwm Cymreig. 

Beth ddigwyddodd

Roedd y prosiect yn ymdrech ar y cyd, ac roedd yn cynnwys yr awdur Sian Melangell Dafydd a gyflogwyd yn ystod y tymor cyntaf, a’r ymarferwyr theatr a gyflwynodd y gwaith yn yr ail a'r trydydd tymor, yn seiliedig yn Theatr Felinfach, Ceredigion.

Ar y cychwyn, y cynllun oedd mynd â disgyblion i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gyda’r bwriad o weld y testunau gwreiddiol a oedd yn sail i’r prosiect. Ond wrth i amser fynd yn ei flaen, daeth yn amlwg mai mwy grymus fyddai defnyddio actorion i roi cyflwyniadau wedi’u sgriptio o fywydau cymeriadau allweddol. 

Perfformiad

Trefnwyd teithiau i’r 87 o ddisgyblion Blwyddyn 7 i’r bryniau lle’r oedd y Crynwyr yn byw, a lleoliad y storïau a astudiwyd ganddynt.

Bu myfyrwyr drama iaith Gymraeg Coleg Meirion Dwyfor yn perfformio yn eu gwisgoedd, a chafodd y disgyblion gyfle i ofyn cwestiynau agored am y gwahaniaethau rhwng bywyd modern a bywyd yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Er bod gwaith y tymor cyntaf yn bennaf seiliedig ar ysgrifennu creadigol, gyda’r plant yn ysgrifennu tri darn mewn ymateb i’r storïau, gwnaed rhywfaint o waith drama ymarferol hefyd: 

  • Ail-grëwyd cyfarfod y Crynwyr yn yr ysgol gyda phob un o’r grwpiau a chyda chyn-bennaeth Ysgol y Gader, hithau ei hun yn Grynwraig, i ddeall pŵer distawrwydd yng nghyfarfodydd y Crynwyr.
  • Rhoddwyd tâp ar lawr y neuadd i nodi faint o le oedd gan un teulu a deithiai i America ar y llongau a arferai gario caethweision. Gofynnwyd i’r dysgwyr ddefnyddio’r gofod er mwyn iddynt gael dychmygu sut y byddent wedi treulio’r amser ar y fordaith o chwe i wyth wythnos. 
Canlyniadau a Gwerthuso

Bu’r gwaith perfformio’n heriol, ond roedd yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr wedi’u cynnwys. Y canlyniad oedd y gallai’r holl ddisgyblion ymfalchïo yn y ffaith i’w gwaith tîm gryfhau, i’w hyder wella wrth drafod materion ymddygiad heriol mewn grŵp, a’i gallu i oresgyn nerfau wella wrth berfformio’n gyhoeddus.

Wrth werthuso, rhoddwyd ystyriaeth i sylwadau’r artistiaid, yr athrawon a’r disgyblion.

Sian Melangell Dafydd (Awdur):

“Cafodd y dysgwyr brofiadau y tu hwnt i gwricwlwm arferol yr ysgol ac felly roeddynt yn edrych ymlaen at lawer o’r sesiynau. Roedd pob un o’r artistiaid eisiau sicrhau disgwyliadau uchel gan bob un o’r disgyblion.

Fel rhan o’r prosiect, bu’r disgyblion yn ysgrifennu storïau a dramâu, adrodd storïau a pherfformio eu gwaith drama eu hunain, adeiladu hyder, ymwneud â phobl a chymunedau lleol, ac yn gwneud gwaith ffilm, dogfen a theatr gyfnod mewn lleoliadau safle-benodol. Drwy’r gweithgareddau, cawsant ddysgu am hanes y Crynwyr yn eu hardal, cyfnod yr Adferiad ym Mhrydain a sut beth oedd bod yn fyw bryd hynny (ffordd o fyw, gwisgoedd, ofnau a gobeithion), cysyniadau a gwerthoedd mewn crefydd (a Chymdeithas y Cyfeillion) bryd hynny a nawr, agweddau gwahanol ar wahaniaethu ac ‘annhegwch’.

Gweld y plant yn ymwneud â’u hanes lleol yn llawn brwdfrydedd, eu perchenogaeth a’u creadigrwydd (amlddisgyblaethol, gyda chanolbwynt ar greadigrwydd ac adrodd stori) oedd un o’r pethau mwyaf gwerthfawr yr wyf wedi’i wneud yn fy ngyrfa hyd yma.

Gobeithiaf y gall rhagor o blant elwa o’r model hwn, wedi’i deilwra at eu hardal leol. O fod wedi gweld y newid yn y disgyblion wedi iddynt gael y profiad o’r diwrnod o daith (yn arbennig) a thasgau creadigol eraill, (ynghyd â’r) cam enfawr o ran empathi, brwdfrydedd a dychymyg, rwy’n argyhoeddedig bod hwn yn fodel i’w ddefnyddio yn esiampl i hanesion a lleoliadau eraill”.

Meddai athrawes Blwyddyn 7, Shelly Thomas,

“Bu’n brofiad gwirioneddol gwerth chweil iddynt, a gwahanol iawn. Maent yn ymddangos yn llawer mwy hyderus wrth berfformio, ond hefyd yn gyffredinol. Mae’n cymryd cryn hyder i berfformio gerbron dysgwyr Blwyddyn 8. Bu rhai o’r plant sydd wir yn cael trafferth gyda’u hymddygiad yn ymgymryd â rhai o’r rolau mwyaf ac yn gweithio fel tîm. Canolbwyntiwyd llawer mwy ar y ffaith fod y plant eisiau cydweithio, ac yn sicr ni fyddai hanner y plant hyn wedi bod ar lwyfan o’r blaen.”

Yn ôl athrawes Blwyddyn 7, Bethan Jones,

“Mae eu hyder wedi cynyddu’n sylweddol, ac yn sicr o ran gwaith tîm. Maent wedi defnyddio mwy o Gymraeg na fyddent fel arfer gan fod y prosiect cyfan wedi bod yn y Gymraeg. Maent wedi deall pwnc y Crynwyr yn dda ac wedi deall y themâu ynglŷn â phobl o gefndiroedd a diwylliannau gwahanol a pherthnasedd hynny heddiw. O fod wedi gwneud hyn, byddem yn sicr yn ystyried cychwyn clwb drama yn yr ysgol, ond defnyddiol iawn oedd cael pobl yn dod i mewn o’r tu allan, gan gynnig sgiliau gwahanol. Gwych hefyd oedd bod yr holl ddisgyblion wedi cael bod yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys y rhai na fyddai fel arfer yn cael cyfle i fynd ar ymweliadau a theithiau. Cafodd pawb gyfle i ysgrifennu a chreu’r gwaith, gan gynnwys plant sydd ag amrywiaeth enfawr o alluoedd ac anawsterau, ac mae pawb wedi elwa ohono.”

Adborth y disgyblion

Gofynnwyd i bob plentyn lenwi ffurflen adborth gan roi, 

Tri gair i ddisgrifio’r prosiect; dau beth yr hoffent newid; a chasglwyd eu teimladau ynglŷn â’r prosiect.

Myfyrio

Mae’r ffaith fod y prosiect yn cynnwys Blwyddyn 7 yn gyfan, ac yn ymwneud â hwy unwaith bob pedair wythnos, yn golygu mai anodd oedd cynnal momentwm. Ond mae adborth y plant yn adlewyrchu gallu’r artistiaid i helpu plant 11 a 12 oed i ddeall ac ymateb i ddeunyddiau heriol ar sail pwnc a allai ymddangos yn anodd i’w addysgu ar yr olwg gyntaf. Y consensws oedd y bu’r prosiect yn llwyddiannus iawn wrth gynnwys y flwyddyn gyfan, waeth beth oedd gallu’r unigolion.

‘Roedd y prosiect yn fwy na pherfformiad theatrig yn unig. Golygai helpu’r plant i ddeall eu hanes lleol a’i arwyddocâd yn y byd.’